Enw llawn: Elidir Jones

Man geni / byw: Bangor, Gwynedd / Pwllheli, Gwynedd

Ysgolion: Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan

Hoff lyfr fel plentyn: Brian Jacques – Redwall

3 ffaith hwyliog amdanoch chi:

  1. Mae gen i ddau gi achub – Mostyn o Bontyclun, a Magi o Arizona yn yr Unol Daleithiau!
  2. Mae gemau fideo yn ddylanwad mawr ar fy straeon, a’r gyfres Chwedlau’r Copa Coch, er enghraifft, wedi ei ddylanwadu gan Minecraft, The Legend of Zelda ac Animal Crossing.
  3. Roeddwn i arfer bod yn ddigrifwr stand-yp. Llwyddais i ddweud jôcs am chwarter awr yn Abertawe unwaith heb i unrhyw un chwerthin o gwbl. Dim rhyfedd fy mod i’n awdur bellach!
en_GBEnglish