Mae Darllen Co yn rhan allweddol o’r cyfnodau darllen yn Ysgol yr Hendre. Mae’r llyfrgell yn parhau i dyfu sy’n golygu ystod ardderchog o lyfrau ffuglen a ffeithiol, a chylchgronau amrywiol. Mae yna rhywbeth i bawb ar Darllen Co – mae’r camau yn ei wneud yn hawdd i’r athrawon allu rhoi deunyddiau darllen sydd yn addas i oed a gallu darllen disgyblion gwahanol. Adnodd gwerthfawr yw’r cwestiynau sy’n cyd-fynd gyda’r testunau ac mae’n bosib eu defnyddio mewn tasgau darllen yn rheolaidd.

cyCymraeg