Enw llawn: Iestyn Tyne

Man geni / byw: Yn wreiddiol o Ben Llŷn, ac yn byw erbyn hyn yn Waunfawr ger Caernarfon

Ysgolion: Ysgol Pentreuchaf ac Ysgol Uwchradd Botwnnog

Hoff lyfr fel plentyn: Amazing Questions and Answers – dau glamp o lyfr trwchus yn llawn ffeithiau am bob math o bethau!

2 ffaith hwyliog amdanoch chi:

  1. Doedd dim teledu adra pan o’n i’n tyfu i fyny – felly mae llyfrau wedi bod yn bwysig iawn i mi ers y dechrau.
  2. Dwi bellach yn dad i ddau o blant bach fy hun, ac amdanyn nhw fydda i’n meddwl wrth sgwennu straeon plant!
cyWelsh