Enw llawn: Anwen Haf Llewelyn

Man geni / byw: Bermo ond yn byw bellach yn Llanuwchllyn ger y Bala.

Ysgolion: Ysgol Gynradd Llanbedr, ac Ysgol Uwchradd Ardudwy, Harlech.

Hoff lyfr fel plentyn: Pwt a Moi, Elizabeth Watkin-Jones

3 ffaith hwyliog amdanoch chi:

  1. Byth ers i mi ddarllen y llyfr Pwt a Moi yn blentyn bach, dwi’n sicr bod tylwyth teg a phobl bychan yn byw o’m cwmpas. Dwi’n meddwl mod i wedi gweld un unwaith, o dan garreg yn yr ardd. Ond pan es i nôl chwilio, doedd dim byd ond ei olion traed yno. Hmm.
  2. Dw i’n byw yn ymyl Llyn Tegid, ond weles i erioed Tegi – anghenfil ydy Tegi, ac mae’n byw yn y llyn yn ôl y sôn.
  3. Mae gen i ddau anifail anwes – Mrs Lewis y gath ac Anni y ci. Weithiau mae gen i bryf copyn neu gorryn yn byw yn y bath, ond dydi o ddim yno bob amser.
cyWelsh