Enw llawn: Megan Angharad Hunter
Man geni / byw: Geni yng Nghaerdydd, magu yn Nyffryn Nantlle, byw nôl yng Nghaerdydd!
Ysgolion: Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan
Hoff lyfr fel plentyn: Corduroy gan Don Freeman a What Do People Do All Day gan Richard Scarry.
3 ffaith hwyliog amdanoch chi:
- Dwi’n perthyn i’r môr-leidr enwog, Harri Morgan!
- Dwi’n gallu cyffwrdd fy nhrwyn efo fy nhafod!
- Pan o’n i’n wyth oed, es i ar goll ar drip ysgol yn Sŵ Gaer achos o’n i’n dilyn teulu o hwyaid!