Enw llawn: Catrin Stevens

Man geni / byw: Ganwyd yn Aberystwyth, nawr yn byw yng Ngorseinon ger Abertawe.

Ysgolion: Ysgol Gynradd Llan-non ac Ysgol Gynradd Comins Coch ac Ysgol Ramadeg Ardwyn, Aberystwyth.

Hoff lyfr fel plentyn: ‘Esyllt’ stori antur hanes gan Elizabeth Watcyn Jones gan mai Esyllt oedd enw fy chware hŷn a ‘Heidi’ gan Johanna Spyri – stori hyfryd am berthynas merch fach o’r enw Heidi gyda’i thad-cu yn byw ym mynyddoedd yr Alpau.

3 ffaith hwyliog amdanoch chi:

  1. Dwi’n dwlu ar hanes – yn enwedig hanesion gwahanol a thwp a dyna pam ysgrifennes i’r gyfres Hanes Atgas / Wicked Wales ar gyfer plant. Mae’r cartwnau gan yr artist Graham Howells yn wych.
  2. Dwi’n dwlu ar chwaraeon – yn enwedig chwaraeon menywod a dyna pam es i allan i weld merched Cymru yn chwarae pêl-droed yn yr Euros yr haf yma.
  3. Trefnes i Bicnic Siwperted ym Mharc Margam, Port Talbot. Ro’n i’n disgwyl tua 2000 i ddod ond daeth 20,000 ac roedd traffordd yr M4 wedi cau oherwydd y traffig! Cyrhaeddodd Siwperted a Smotyn mewn hofrennydd i ymuno yn y parti mawr!
en_GBEnglish