Enw llawn: Elidir Jones
Man geni / byw: Bangor, Gwynedd / Pwllheli, Gwynedd
Ysgolion: Ysgol y Garnedd ac Ysgol Tryfan
Hoff lyfr fel plentyn: Brian Jacques – Redwall
3 ffaith hwyliog amdanoch chi:
- Mae gen i ddau gi achub – Mostyn o Bontyclun, a Magi o Arizona yn yr Unol Daleithiau!
- Mae gemau fideo yn ddylanwad mawr ar fy straeon, a’r gyfres Chwedlau’r Copa Coch, er enghraifft, wedi ei ddylanwadu gan Minecraft, The Legend of Zelda ac Animal Crossing.
- Roeddwn i arfer bod yn ddigrifwr stand-yp. Llwyddais i ddweud jôcs am chwarter awr yn Abertawe unwaith heb i unrhyw un chwerthin o gwbl. Dim rhyfedd fy mod i’n awdur bellach!